Mynd â charthion i ffwrdd

Faint o garthion a drinnir ar gyfartaledd ar draws Lloegr a Chymru

Mae llawer o garthion yn cael eu symud o bob eiddo yn y wlad, felly unwaith i chi dynnu'r tsiaen does dim rhaid meddwl amdanynt eto.

4,036 Tunnelli bob dydd
Yn gyfartal i bwysau
339
bysys uchder dwbl

Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2022 - Mawrth 2023

Eiddo sydd wedi'i gysylltu â charthffosydd

25,994, 951

Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2022 - Mawrth 2023

  • Na, bydd gan rai tai gwledig danc septig neu rywbeth tebyg y bydd angen ei wagio'n rheolaidd. Mae'r gwastraff yn cael ei gludo i weithfeydd trin lleol lle caiff ei brosesu'n ddiogel, a gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni glân, neu gwrtaith i'r ddaear.

  • Pan fyddwch yn fflysio'r toiled neu wagio'r sinc, neu roi unrhyw beth i lawr y draen, bydd y dŵr gwastraff hwn, yn ogystal â dŵr glaw o gwteri a draeniau ffordd, yn rhedeg i mewn i'r garthffos. Bydd yn llifo i weithfeydd trin dŵr gwastraff cyfagos lle caiff ei brosesu er mwyn i'r dŵr gael ei dynnu, ei drin a'i ddychwelyd yn ddiogel i'r afonydd a'r môr. Wedyn mae'r solidau sy'n cael eu gwahanu (a elwir yn llaca) yn cael eu defnyddio fwyfwy i gynhyrchu ynni neu'n cael eu troi'n gwrtaith.

    Mae'n hynod bwysig mai'r unig bethau ddylai fynd i lawr eich toiled yw'r tri 'P' yn Saesneg, sef - pŵ, pî a phapur. Byddai unrhyw beth arall, er enghraifft weips gwlyb neu eitemau iechydol yn blocio'r carthffosydd ac yn creu llifogydd sy'n brofiad erchyll. Gweler ein tudalen ar garthffosydd yn gorlifo am fanylion pellach.

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.