Arbed dŵr

Arbed dŵr, arbed ynni, arbed arian

Mae dŵr yn adnodd naturiol gwerthfawr. Po fwyaf a ddefnyddir gennych chi, po fwyaf y bydd rhaid i'r cwmnïau gymryd o'r amgylchedd sy'n arwain at gostau uwch. Mae arbed dŵr yn arbed ynni ac arian.

Ystyriwch newid i fesurydd dŵr

Mae cartrefi sydd â mesurydd dŵr yn tueddu i ddefnyddio llai o ddŵr i bob person ar gyfartaledd na'r cartrefi sy'n talu costau sefydlog heb eu mesur. O ddefnyddio cyfrifiannell mesur dŵr CCWater cewch weld a fyddai newid i fesurydd dŵr yn gallu eich helpu i arbed dŵr ac arian. Os oes mwy o ystafelloedd gwely yn eich tŷ nac sydd o bobl yn byw yno mae'n bendant yn werth ei ystyried – mewn rhai achosion mae newid drosodd yn arbed dros £100 y flwyddyn i gwsmeriaid.

Caewch y tap wrth lanhau eich dannedd

Mae'n bosibl i sawl litr o ddŵr gael ei wastraffu yn y 60 eiliad a gymerwch i frwsio eich dannedd. Gall hyn fod gymaint â 1,000 litr i bob person.

Mynnwch doiled sy'n fflysio mewn dwy ffordd

Mae tua chwarter o'r dŵr mae person yn ei ddefnyddio yn mynd at fflysio'r toiled. Os nad yw newid eich toiled yn opsiwn, gall gofyn i'ch cwmni dŵr am ddyfais Hippo i arbed dŵr fod yn ddewis syml arall.

Newidiwch wasieri ar dapiau sy'n gollwng

Mae hi'n bosibl i dap sy'n gollwng wastraffu dros 5,000 litr o ddŵr mewn blwyddyn - digon i lenwi pwll padlo bob wythnos drwy'r haf. Os ydych chi ar fesurydd dŵr mae'n bosibl, hefyd, iddo ychwanegu dros £18 at eich bil dŵr blynyddol .

Defnyddiwch declyn arbed dŵr ​ar 'ben' y cawod

Gall y dyfeisiau clyfar hyn gwtogi ar faint o ddŵr a ddefnyddir gan oddeutu 30 y cant. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau dŵr yn cynnig ystod eang o ddyfeisiau arbed dŵr felly ffoniwch nhw neu cliciwch yma er mwy darganfod mwy.

Llenwch lwythi llawn i'r peiriannau golchi dillad/llestri

Sicrhewch bod eich peiriant golchi llestri a'ch peiriant golchi dillad yn llawn cyn eu troi ymlaen i arbed dŵr ac ynni. Peidiwch â  defnyddio'r gosodiadau hanner llwyth sy'n defnyddio llawer mwy na hanner yr ynni llwyth llawn.

Dyfrhewch eich gardd yn gynnar yn y bore neu gyda'r nos

Osgowch golli dŵr trwy anweddiad trwy ddyfrhau eich gardd yn oerni'r bore cynnar neu gyda'r nos. Bydd hyn yn lleihau faint o ddŵr a gollir i anweddiad.

Faint o ddŵr ydych chi'n ei arbed?

faint rydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.