Pibellau yn gollwng

Cael dŵr i'ch cartref

Mae dŵr yn cyrraedd eich cartref drwy filoedd o gilomedrau o bibellau tanddaearol. Am amryw resymau, mae pibellau yn gallu gollwng a chollir rhywfaint o ddŵr rhwng y gweithfeydd trin a'ch cartref.

350,277km Hyd y pibellau dŵr (prif ddŵr pibell) sy'n perthyn i gwmnïau
Yn gyfartal i
8.6 gwaith
o amgylch y cyhydredd

Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2022 - Mawrth 2023

3,037 Miliwn litr o ddŵr yn gollwng bob dydd
Equivalent to
1,215
Pyllau nofio Olympaidd fesul dydd

Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, cyfartaledd tair blynedd Ebrill 2020 - Mawrth 2023

Cliciwch i gymharu pob cwmni Cau'r panel

Mae cwmnïau dŵr wedi lleihau eu gollyngiadau gan draean ers y 1990au ac yn parhau i reoli gollyngiadau'n agos. Mae gan bob un cwmni targedau am faint o ddŵr sy'n gollwng o'u pibellau.

Sut all cwmnïau gael eu cymharu?

Mae gwahanol ffyrdd i gymharu sut mae cwmnïau'n gwneud ar ollyngiadau.


• Cymharu sut mae pob un cwmni yn ei wneud yn ôl ei darged

Mae gan bob cwmni dargedau am faint o ddŵr s'n gollwng o'u pibellau – a ydynt yn eu cwrdd, yn eu curo neu'n eu methu hwy?

Mae targedu'n gwahaniaethu ar gyfer pob cwmni, yn dibynnu ar faint mae'n ei gostio i leihau gollyngiadau ym mhob ardal a beth yw gwerth dŵr ychwanegol wrth leihau gollyngiadau – mewn arian, i'r amgylchedd ac i gwsmeriaid. Mae'r targedau wedi eu cymeradwyo gan y rheolydd, Ofwat, a'u gosod, fel nad ydy biliau yn uwch na'r hyn sydd yn rhaid iddynt fod.

• Cymharu cwmnïau yn ôl ei gilydd.

Oherwydd bod maint yr ardaloedd mae'r cwmnïau'n eu gwasanaethu'n gallu amrywio'n helaeth, i gymharu cwmnïau'n ôl ei gilydd, gallwch naill ai edrych ar faint o ollyngiad sydd yna ar gyfer pob hyd o bibell – neu faint o ollyngiad sydd yna ar gyfer pob eiddo.

Pam gall y lefel o ollyngiad amrywio?

Caiff targedau ar gyfer gollyngiadau eu seilio ar gymharu'r gost o gael dŵr ychwanegol drwy leihau gollyngiadau a'r gost o gael dŵr ychwanegol o darddiadau eraill, mewn pob rhan o'r wlad. Felly mae targedau gollyngiad, a'r lefelau o ollyngiad, yn amrywio'n dibynnu ar gostau lleol ac argaeledd dŵr yn y rhanbarth yna. Mae'r targedau hefyd yn cynnwys pa mor bwysig mae cwsmeriaid yn meddwl yw lleihau gollyngiad, ac mae hyn yn amrywio ar draws y wlad hefyd.

Gall gollyngiad hefyd amrywio oherwydd:

• Cyflyrau tywydd eithafol - tywydd cynnes neu sych neu rewi yn arwain at y ddaear yn ehangu neu'n cyfyngu o gwmpas y prif bibellau dŵr, yn arwain at bibellau'n byrstio

• Oedran y rhwydwaith bibell mewn rhanbarth penodol - mae pibellau hŷn yn dueddol o ollwng yn fwy

• Deunydd pibell – rhai deunyddiau'n fwy tebygol o fyrstio nag eraill

• Gwahaniaethau mewn gwasgedd dŵr

• Cyflyrau pridd - gall erydiad arwain at ddeunyddiau rhai pibellau yn cael eu bwyta i ffwrdd

• Niwed i bibellau - mewn dinasoedd a threfi, traffig trwm yn cywasgu'r pridd o amgylch y pibellau ac yn gallu eu niweidio.

A ydy'r cwmnïau wedi cwrdd â'u targedau?

Gosodwyd targedau i bob cwmni i leihau gollyngiadau o gymharu â lefel perfformiad sylfaenol. Cyfartaledd y targedau hyn dros dair blynedd gan y gall y tywydd effeithio ar berfformiad mewn blynyddoedd unigol. Mae'r graff yn dangos a yw cwmnïau wedi cyrraedd eu targedau am y tair blynedd diwethaf. Os yw gollyngiadau wedi'u lleihau o fwy na'r targed, mae'r cwmni wedi curo'r targed ac arbed dŵr ychwanegol.

Newid mewn gollyngiadau cyfartalog tair blynedd o gymharu â gwaelodlin (%)

      Newid mewn gollyngiadau cyfartalog tair blynedd o gymharu â gwaelodlin (%)

      Ffynhonnell: Water UK

      Cyfanswm gollyngiadau

      Mae'r graff hwn yn dangos cyfartaledd tair blynedd cyfanswm y gollyngiadau ar gyfer pob cwmni, mewn miliynau o litrau o ddŵr a ollyngir bob dydd.


          Gollyngiad cyfartalog tair blynedd (Ml y dydd)

          Ffynhonnell: Water UK

          Metrau ciwbig o ddŵr a ollyngwyd (pob cilomedr pob dydd)

          I gymharu cwmnïau o wahanol feintiau, mae’r graff hwn yn dangos cyfaint y dŵr sy’n gollwng o bibellau pob cwmni o’i gymharu â hyd cyffredinol y pibellau dŵr sydd gan y cwmni. Mae'r graff hwn yn dangos y gollyngiad cyfartalog ar gyfer y tair blynedd diwethaf o gymharu â hyd y pibellau dŵr yn y flwyddyn ddiweddaraf.

              Metr ciwbig cyfartalog tair blynedd o ddŵr yn gollwng y dydd fesul cilomedr o'r prif gyflenwad (y flwyddyn ddiwethaf)

              Ffynhonnell: Water UK

              Litrau o ddŵr a ollyngwyd (pob eiddo pob dydd)

              I gymharu cwmnïau o wahanol feintiau, mae’r graff hwn yn dangos cyfaint y dŵr sy’n gollwng o bibellau pob cwmni o’i gymharu â hyd cyffredinol y pibellau dŵr sydd gan y cwmni. Mae'r graff hwn yn dangos y gollyngiad cyfartalog ar gyfer y tair blynedd diwethaf o'i gymharu â nifer yr eiddo yn y flwyddyn ddiweddaraf.

                  Ar gyfartaledd tair blynedd litrau o ddŵr yn gollwng y dydd fesul eiddo (y flwyddyn ddiwethaf)

                  Ffynhonnell: Water UK

                  Metrau cibiwg o ddŵr wedi ei ollwng (pob cilomedr pob diwrnod)

                  I gymharu cwmnïau o wahanol faint, mae'r graff yn dangos y gyfaint o ddŵr sydd wedi gollwng o bibellau pob cwmni o gymharu gyda'r hyd cyffredinol o bibellau dŵr sydd gan y cwmni. Mae'r graff yma'n dangos sut mae cwmnïau'n cymharu ar ollygiad dros y tair blynedd ddiwethaf.

                      Metrau ciwbig o ddŵr a ollyngwyd (pob cilomedr pob dydd)

                      Ffynhonnell: Water UK

                      Litrau o ddŵr a ollyngwyd (pob eiddo pob dydd)

                      I gymharu cwmnïau o wahanol faint, mae'r graff yn dangos y gyfaint o ddŵr sydd wedi gollwng o bibellau pob cwmni o gymharu gyda'r hyd cyffredinol o bibellau dŵr sydd gan y cwmni. Mae'r graff yma'n dangos sut mae cwmnïau'n cymharu ar ollygiad dros y tair blynedd ddiwethaf.

                          Litrau o ddŵr sydd wedi gollwng (pob eiddo pob dydd).

                          Ffynhonnell: Water UK

                          Pibellau dŵr - pa rai sy'n perthyn i chi?

                          Mae'n ddefnyddiol i gael gwybod pa bibellau mae'r cwmnïau yn gyfrifol amdanynt a pha rai sy'n perthyn i chi.

                          Pibellau dŵr - pa rai sy'n perthyn i chi?
                          • Mae llawer o resymau pam fod pibellau dŵr yn gollwng. Mae rhai yn hen ac wedi treulio'n raddol drwy gyrydiad, ac mae'n bosib i rai eraill gael eu difrodi gan dywydd rhewllyd.

                            Mae symudiad yn y ddaear, fel symudiadau naturiol mewn seiliau adeiladau yn gallu rhoi straen ar bibellau.

                          • Os gwelwch chi ddŵr yn gollwng ar y stryd, y peth gorau i'w wneud yw dweud wrth eich cwmni dŵr mor fuan ag sy'n bosib.

                            Yn eich cartref chi, mae rhai gollyngiadau fel tapiau'n diferu yn amlwg ond gall fod rhai eraill yn guddiedig, er enghraifft:

                            • Tu ôl i offer sy wedi cael ei blymio'n wael
                            • Mewn tanc dŵr sydd o'r golwg bob dydd
                            • Oherwydd seston toiled yn gorlifo

                            Os ydych chi'n credu bod gollyngiad posibl gyda chi a'ch bod ar fesurydd dŵr, edrychwch ar ddarlleniad eich mesurydd i weld a yw'n codi hyd yn oed pan fydd pob offer dŵr wedi'u diffodd (cofiwch aros am 30 munud i ganiatáu i sestonau lenwi).

                            Os dowch chi o hyd i ollyngiad yn eich pibellau, cysylltwch â phlymwr a ardystir gan WaterSafe.

                          Wedi canfod gollyngiad?

                          Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma

                          Mae eich porwr yn hen !

                          Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.