Trin a chyflenwi

Nifer o weithfeydd trin dŵr a ddefnyddir i gynhyrchu dŵr yfed

1,054

Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2022 - Mawrth 2023

Trin a chyflenwi eich dŵr

Mae chwe cham hanfodol i gael dŵr o'r ansawdd uchaf i'ch cartref.

Trin a chyflenwi eich dŵr
  • Mae'r dŵr a ddaw o'r tapiau yn eich cartref, eich ysgol a'r gweithle yn cychwyn fel glaw. Mae'r dŵr glaw hwn naill ai'n llifo i afonydd a nentydd, neu'n cael ei gasglu mewn gronfeydd neu'n ffiltro drwy'r ddaear i ffurfio 'dŵr daear'

    Wedyn, mae cwmnïau dŵr yn pwmpio'r dŵr hwn i weithfeydd trin lle mae'n mynd drwy amryw o brosesau cyn cael ei anfon atoch chi.

    Gan fod cwmnïau dŵr yn cael dŵr o wahanol afonydd a ffynonellau dŵr daear, gall yr ansawdd amrywio, felly mae'r proses o'i drin yn cael ei deilwra i sicrhau eu bod yn rhoi dŵr i chi o'r ansawdd gorau posib.

  • Yn rhai o'r gweithfeydd trin mwyaf, mae cwmnïau yn storio dŵr mewn cronfeydd cyn iddo fynd drwy'r proses trin. Mae hyn yn digwydd am ddau reswm:

    • Er mwyn i gwmnïau gael stôr neu gronfa o ddŵr wrth gefn, felly os na fydd wedi bwrw glaw am ychydig neu os nad allant bwmpio cymaint o ddŵr o'r afonydd neu'r ffynonellau dŵr daear, mae dŵr ar gael gan y cwmnïau i'w roi drwy'r proses trin.
    • Storio'r dŵr mewn cronfeydd yw cychwyn y broses glanhau naturiol, gan fod y gronynnau trymaf yn setlo yn y gwaelod, sy'n golygu nad oes yn rhaid i gwmnïau eu tynnu yn ystod y proses trin
    • Defnyddir cronfeydd gan gymunedau lleol i hwylio, pysgota, mynd ar deithiau natur, a gwylio adar.
  • Unwaith bydd cwmnïau wedi casglu'r dŵr, byddan nhw'n ei roi drwy sgrin i ddal unrhyw ganghennau neu ddail. Pe bai'r rhain yn cael eu gadael yn y dŵr byddent bron yn sicr o dagu'r proses trin.

  • Mewn rhai gweithfeydd trin, bydd cwmnïau yn ychwanegu hydoddiant i'r dŵr i wneud y gronynnau'n fwy ac yn haws eu tynnu. Yr enw ar hyn yw gronynnu.

    Er mwyn sicrhau eu bod yn cynhyrchu'r dŵr puraf posib i gwsmeriaid, mae'r dŵr wedyn yn cael ei roi drwy ddau ffilter ychwanegol i dynnu gronynnau bychain:

    • Ffilteri disgyrchiant cyflym sy'n golygu bod y dŵr yn pasio drwy danc llawn tywod bras. Mae'r tywod yn trapio gronynnau wrth i'r dŵr basio drwyddo.
    • dŵr tywod araf lle mae'r dŵr yn cael ei ffiltro drwy haenau o dywod sy'n fwy mân o lawer.

    mewn rhai gweithfeydd trin mae cwmnïau yn defnyddio dulliau ychwanegol hefyd, fel cyfnewid oson, ïon a charbon, i dynnu gronynnau microsgopig a gronynnau toddedig o'r dŵr. Mae'r dulliau hyn yn creu adweithiau cemegol yn y dŵr ac yn tynnu gronynnau mân.


  • Unwaith bydd y dŵr wedi cael ei drin, y peth olaf y bydd y cwmnïau'n ei wneud yw ychwanegu ychydig bach iawn (llai na un filigram i bob litr) o glorin iddo. Bydd hwn yn lladd unrhyw organebau neu facteria sydd ar ôl a chadw'r dŵr yn ddiogel hyd at y bydd yn cyrraedd eich tap.

    Mae cwmnïau dŵr yn profi'r dŵr bob cam o'r proses trin. Maen nhw'n gwneud miloedd o brofion ar y dŵr maen nhw'n ei gynhyrchu bob blwyddyn, sy'n cael eu dadansoddi gan dimau o samplwyr a gwyddonwyr yn dadansoddi mewn labordai.

  • Yn dilyn y driniaeth derfynol, bydd y dŵr yn gadael y gweithfeydd trin a chael ei storio mewn cronfeydd wedi'u gorchuddio. Wedyn mae e'n cael ei bwmpio atoch chi drwy rwydwaith o bibellau a gorsafoedd pwmpio.

Eisiau gwybod mwy am sut mae dŵr​ yn cael ei gynhyrchu?

Mae gan gwmnïau dŵr ganolfannau i ymwelwyr. Cysylltwch â'ch cwmni dŵr i ddarganfod mwy.

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.