Am DiscoverWater.co.uk

  • Mae DiscoverWater.co.uk yn 'ddangosfwrdd' sydd am y tro cyntaf yn cyfuno gwybodaeth allweddol am gwmnïau dŵr yn Lloegr a Chymru mewn un lle ar gyfer cwsmeriaid. Bwriad y dangosfwrdd yw bod yn ffynhonnell glir a syml ar gyfer gwybodaeth ddibynadwy a ffeithiol.

    Mae'r wybodaeth a ddarparwyd wedi ei chytuno gan gwmnïau dŵr, y rheolyddion dŵr, Llywodraeth y DU a Chymru a'r Consumer Council for Water, sef y corff gwarchod dŵr.

    Caiff y dangosfwrdd ei gadw wedi ei ddiweddaru, felly byddwch bob amser yn dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf yma.

  • Mae'r data a'r wybodaeth naill ai oddi wrth gwmnïau dŵr neu oddi wrth y sefydliadau sydd wedi dod â DiscoverWater.co.uk i chi. Mae'r holl wybodaeth wedi ei gwirio a'i sicrhau am gywirdeb.

  • Diweddarwyd Darganfod Dŵr gyda gwybodaeth perfformiad 2022-23 a biliau cyfartalog 2024-25 yn gynnar yn 2024.

  • Bydd Darganfod Dŵr yn cael ei ddiweddaru gyda gwybodaeth perfformiad 2023-24 yn ddiweddarach yn 2024.

  • Mae DiscoverWater.co.uk wedi ei chynllunio i redeg ar yr holl ddyfeisiau symudol cyffredinol a bwrdd gwaith fel y gellir ei gyrchu yn y cartref, yn y swyddfa neu tra eich bod yn teithio. Mae'r feddalwedd bori rhyngrwyd sydd wedi ei gosod ar ddyfeisiau pobl yn amrywio'n helaeth. Mae DiscoverWater.co.uk yn cefnogi cymaint ag sy'n bosibl tra hefyd yn edrych i wneud y defnydd gorau o nodweddion y feddalwedd ddiweddaraf. Os yr ydych yn sylwi ar broblemau ynghylch sut mae'r safle yn gweithio, gwiriwch bod y fersiwn diweddaraf o feddalwedd borwr wedi ei osod gennych.

    Ar gyfer dyfeisiau bwrdd gwaith rydym yn argymell y feddalwedd a'r fersiynau canlynol:

    - Internet Explorer 10 or 11

    - MS Edge 12 neu uwch

    - Mozilla Firefox 35 neu uwch
    - Google Chrome 40 neu uwch
    - Opera 30 neu uwch
    - Mac OS X Safari 8 neu uwch

    Ar gyfer dyfeisiau symudol:

    - iOS Safari 8 neu uwch
    - Chrome ar gyfer Android 45 neu uwch
    - Opera ar gyfer Android 30 neu uwch
    - Firefox ar gyfer Android 45 neu uwch
    - IE Mobile 11 neu uwch

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.