Hydwythedd

Beth yw hydwythedd a pham ei fod yn cyfrif?

I gwmnïau dŵr a charthffosiaeth, golyga hydwythedd ddau beth:

bod yn gallu ymdopi pan mae pethau'n mynd o le - cadw gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn gweithio drwy broblemau tymor byr fel llifogydd, methiant pŵer neu sychderau.

  1. cynllunio ar gyfer beth allai ddigwydd yn y dyfodol, fel y gallwn ni ddibynnu ar gael gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o safon uchel, nid yn unig heddiw ond mewn 25 mlynedd neu fwy o amser

Mae hydwythedd yn cyfrif oherwydd rydym oll yn dibynnu ar ddŵr sydd ar gael o amgylch y cloc, a'n carthffosiaeth yn cael ei chludo i ffwrdd, bob dydd o'r flwyddyn nawr ac yn y dyfodol. Mae nifer o wahanol agweddau ar hydwythedd, yn cynnwys amgylcheddol, ariannol, economaidd a chymdeithasol, sydd oll angen eu hystyried wrth drefnu ar gyfer y dyfodol.

  • Maent angen cynllunio ar gyfer pethau a allai ddigwydd yfory – fel glaw trwm yn gorlifo gwaith trin gyda dŵr llif, cyflenwadau pŵer yn cael eu haflonyddu neu sychder difrifol gyda chyfyngiadau ar faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio. Mae angen i gwmnïau sicrhau y gall dinasoedd a threfi gael eu cyflenwi gyda dŵr oddi wrth fwy nag un lle, fel bod cymorth wrth gefn os aiff pethau o le.

    Mae hefyd angen iddynt edrych ymlaen 25 a hyd yn oed 50 mlynedd. Mae cwmnïau'n gweithio gyda llywodraethwyr a rheolyddion i ragweld faint o ddŵr efallai bydd ei angen yn y dyfodol a sut all y system garthffosiaeth gael ei haddasu i ddelio gyda'r pwysau ychwanegol arni.

    I sicrhau bod digon o ddŵr yn y dyfodol, mae rhai pethau sydd angen i gwmnïau dŵr eu gwneud yn awr, yn cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth fel bod cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn elwa. Efallai mai canlyniad y buddsoddiad yma fydd bod dŵr newydd ar gael, broses well o rannu dŵr neu ddulliau sydd gennym yn barod i annog pobl i leihau faint o ddŵr maent yn ei ddefnyddio.

    Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cwmnïau sydd eisoes yn cynllunio yw syched a newid hinsawdd. Yn y DU, gall hyn ddod â thymereddau mwy cynnes a llai o batrymau glawiad penodol, gyda mwy o dywalltiadau trwm, yn gwneud y tywydd yn fwy amrywiol ac eithafol. Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld sychder difrifol, llifogydd, a glawiad eithafol a thywydd oer. Mae hyn wedi arwain at brinderau o ddŵr a gormod o ddŵr, weithiau y ddau ar yr un pryd mewn rhannau gwahanol o'r wlad.

    Her arall yw poblogaeth y DU, sydd yn cynyddu, ac mae disgwyl i hyn godi o 10 miliwn erbyn y 2030au a 10 miliwn arall erbyn oddeutu 2050. Bydd yn creu hyd yn oed mwy o alw am ddŵr a gwasanaethau carthffosiaeth.

  • Wrth i'n hinsawdd newid, mae disgwyl y bydd llifogydd difrifol yn dod yn llawer mwy cyffredin ac rydym wedi gweld mewn blynyddoedd diweddar pa mor aflonydd gall llifogydd fod ar gyfer cartrefi, busnesau a gwasanaethau.

    Blaenoriaeth allweddol ar gyfer cwmnïau dŵr yw gwella hydwythedd ein cyflenwyr dŵr a systemau gwastraff dŵr i lifogydd. Mae cwmnïau'n nodi eu cyflenwadau a'u systemau sydd mewn perygl, yn gosod amddiffynfeydd llifogydd lle mae'n bosib ac yn helpu ei gilydd pan mae llifogydd yn digwydd.

    Ni allwn ni atal llifogydd yn gyfan gwbl ond mae gweithgarwch yn digwydd a buddsoddiad yn cael ei wneud i sicrhau bod ein gwasanaethau dŵr yn fwy hydwyth.

  • Caiff dŵr ei gymryd o afonydd ac o darddiadau o dan y ddaear am nifer o resymau gwahanol, yn cynnwys cyflenwi dŵr i gartrefi a busnesau, cynhyrchu trydan ac ar gyfer ffermydd. Mae hyn yn hysbys fel tyniad.

    Mewn rhai ardaloedd, gall gormod o ddŵr ei dynnu gan achosi niwed i anifeiliaid a bywyd planhigion. Gelwir hyn yn or-dyniad. Mae o leiaf 5% o afonydd yn Lloegr a Chymru wedi eu heffeithio gan or-dyniad.

    Mae cwmnïau dŵr yn ddefnyddwyr mawr o ddŵr , yn cymryd o amgylch 15 milliwn o litrau dŵr pob diwrnod o'r amgylchedd, a bydd y pwysau o gymryd mwy yn cynyddu wrth i boblogaeth y wlad dyfu yn enwedig yn ne a dwyrain Lloegr.

    Mae pob cwmni dŵr yn buddsoddi mewn adnoddau dŵr a lleihau y galw er mwyn sicrhau nad ydynt yn cymryd gormod o ddŵr o'r amgylchedd ac yn datrys problemau amgylcheddol sydd eisoes yn bodoli.

    Mae cwmnïau hefyd yn ceisio bod yn fwy effeithlon yn eu defnydd o ddŵr, drwy atgyweirio prif gyflenwadau a phibellau sy'n gollwng yn gyflymach, a thrwy weithio gyda'i gilydd i hyrwyddo effeithiolrwydd dŵr gyda'u cwsmeriaid.

Sut mae cwmnïau'n ymdopi â sychder?

Mae cwmnïau dŵr yn bwriadu darparu dŵr pan rydych ei angen i'w ddefnyddio, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Os mae wedi bod yn sych am gyfnod hir, bydd cwmnïau weithiau efallai'n cyfyngu ar sut all dŵr cael ei ddefnyddio, i sicrhau bod digon o ddŵr ar gyfer defnyddiau hanfodol fel yfed a fflysio toiled.

Mae cwmnïau dŵr yn cynllunio ar sail beth a elwir yn “lefelau o wasanaeth”, sydd yn esbonio pa mor aml maent yn disgwyl gweithredu mewn ymateb i sychder i sicrhau bod digon o ddŵr ar gyfer defnyddwyr hanfodol.

Mae pob cwmni yn datblygu eu cynlluniau ei hunain, wedi eu seilio ar ei brofiad ei hun o sychder, ac yn gweithio gyda rheolyddion a chwsmeriaid i sicrhau mai dyna ydy'r cynllun gorau ar gyfer y rhanbarth. Oherwydd bod y cynllun yn lleol, mae'r amledd y bydd cwmnïau'n disgwyl gweithredu i ddiogelu dŵr ar gyfer defnydd hanfodol yn amrywio ar draws y wlad.

Wrth i sychder ddod yn fwy difrifol, mae cwmnïau'n gweithredu mewn cyfres o gamau, yn dechrau gydag annog cwsmeriaid i ddefnyddio llai o ddŵr.

Gwaharddiadau defnydd dros dro

Mae hyn, yn ogystal â gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio llai o ddŵr i sicrhau bod digon i bawb, yn gosod gwaharddiadau dros dro ar ddefnydd diangen o ddŵr fel defnyddio pibell ddŵr mewn llaw ar gyfer glanhau'r car.

Mae amlder enghreifftiau o hyn yn digwydd yn dibynnu ar ba mor aml a pha mor ddifrifol mae'r sychderau. Mae'r map isod yn dangos y ganran o gyfleoedd mewn un flwyddyn o waharddiad y mae cwmnïau'n cynllunio ar ei chyfer.

Caiff hyn ei seilio ar y sychderau mae cwmnïau yn profi eu cynlluniau yn eu hôl. Efallai bydd sychderau mwy llym na'r rheiny a ddefnyddir yng nghynlluniau'r cwmni.

Gwaharddiadau defnydd dros dro Ffynhonnell: Adroddiad fframwaith cynllunio hir dymor adnoddau dŵr, Water UK

Trwyddedau sychder a gorchmynion

Pan mae sychder yn gwaethygu, gall gwmnïau dŵr wneud cais i'r llywodraeth i gymryd rhagor o ddŵr o'r amgylchedd, er enghraifft oddi wrth afonydd, llynnoedd a tharddiadau tanddaearol, i sicrhau bod ganddynt ddigon o ddŵr i wasanaethu'r cwsmeriaid (trwyddedau sychder). Gall cwmnïau dŵr hefyd wneud cais i'r llywodraeth i osod cyfyngiadau ar faint o ddŵr y gall defnyddwyr eraill ei gymryd o'r amgylchedd ac i osod cyfyngiadau ar fusnesau penodol sy'n defnyddio dŵr fel pyllau nofio, golchfeydd car a chanolfannau garddio.

Mae pa mor aml y bydd hyn yn digwydd yn dibynnu ar ba mor aml y bydd y sychderau difrifol. Mae'r map isod yn dangos y ganran o gyfleoedd mewn un flwyddyn o orfod gwneud cais am drwydded sychder y mae cwmnïau'n cynllunio ar ei chyfer.

Caiff hyn ei seilio ar y sychderau mae cwmnïau yn profi eu cynlluniau yn eu hôl. Efallai bydd sychderau mwy llym na'r rheiny a ddefnyddir mewn cynlluniau'r cwmni.

Trwyddedau sychder a gorchmynion Ffynhonnell: Adroddiad fframwaith cynllunio hir dymor adnoddau dŵr, Water UK

Sychderau difrifol

Mae'r DU wedi profi sychderau difrifol yn y gorffennol ac mae gan gwmnïau dŵr gynlluniau pan fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol. Bydd cwmnïau bob amser yn sicrhau pan fydd sychderau difrifol bydd cyflenwyr hanfodol yn cael eu cynnal, a bod yr effaith ar amhariad i wasanaethau i gwsmeriaid yn cael eu isafu.

I'w helpu hwy i gynnal cyflenwdau hanfodol mewn sychderau difrifol, gall cwmnïau wneud cais i'r lllywodraeth i osod amodau argyfwng ar gyflenwadau, fel gostyngiadau arwyddocaol mewn gwasgedd dŵr, darparu dŵr drwy bibellau sefyll neu danceri a chyfyngu defnydd arall penodol o ddŵr (gorchmynion sychder argyfwng).

Beth arall sy'n digwydd i sicrhau hydwythedd cyflenwadau dŵr?

Cliciwch yma i adael Discover Water a darganfod sut mae'r sector dŵr yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae eich porwr yn hen !

Diweddaru eich porwr i weld y wefan yn gywir.