Pwy yw pwy yn y sector dŵr
Mae ystod eang o sefydliadau, yn cynnwys rheolyddion, corff gwarchod y Llywodraeth a defnyddwyr, sydd oll yn gweithio gyda chwmnïau i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y gwasanaethau gorau 24/7 a bod yr amgylchedd wedi ei warchod.
Llywodraethau
Defra - adran llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am warchod ein hamgylchedd naturiol, sy'n cefnogi ein diwydiant bwyd ac amaeth o safon fyd-eang, ac sy'n cynnal yr economi gwledig llwyddiannus. Defra sydd yn gosod y rheolau cyffredinol am wasanaethau dŵr yn Lloegr.
Welsh Government - Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru sy'n gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud y genedl yn lle gwell i fyw a gweithio. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y rheolau cyffredinol ar gyfer gwasanaethau dŵr yng Nghymru.
Rheolyddion
Drinking Water Inspectorate - yn darparu sicrwydd annibynnol bod cyflenwadau dŵr yn Lloegr a Chymru yn ddiogel a bod ansawdd dŵr yfed yn dderbyniol i ddefnyddwyr.
Environment Agency - mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am reoleiddio gwastraff diwydiant, yn ogystal ag ansawdd dŵr ac adnoddau yn Lloegr. Maent hefyd yn gyfrifol am reoli'r risg o lifogydd gan afonydd, cronfeydd dŵr, aberoedd a'r môr.
Natural England - cynghorwr y llywodraeth ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn Lloegr, yn helpu i warchod natur a thirwedd Lloegr i bobl eu mwynhau ac ar gyfer y gwasanaethau maent yn eu darparu.
Natural Resources Wales - Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, yn cael eu gwella a'u defnyddio, nawr ac i mewn i'r dyfodol.
Ofwat - y rheolydd economaidd ar gyfer sectorau dŵr a charffosiaeth yn Lloegr a Chymru. Mae'n gweithio er budd y cwsmeriaid drwy osod cyfyngiadau pris, yn sicrhau bod cwmnïau'n rhedeg yn effeithlon ac yn annog hydwythedd.
Corff gwarchod defnyddwyr
CCWater - Mae Cyngor Defnyddwyr Dŵr / The Consumer Council for Water yn annog buddion defnyddwyr i lywodraethau, rheolyddion a chwmniau dŵr. Maent hefyd yn darparu cyngor rhad ac am ddim a gwasanaeth delio â chwyn ar gyfer cwsmeriaid, yn ymchwilio i'w barnau ar destunau allweddol, ac yn rhoi gwybodaeth ar y materion sy'n effeithio ar eu gwasanaethau.
Caiff gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth eu darparu gan gwmnïau rhanbarthol, yn gwasanaethu ardal a ddengys ar y map. Gallwch ddarganfod rhagor amdanynt isod.
Cwmnïau Dŵr a Charthffosiaeth
Mae un ar ddeg cwmni yn darparu gwasanaethau dŵr a hefyd carthffosiaeth i ranbarthau mawr ar draws Lloegr a Chymru. Mae nifer o gwsmeriaid yn cael gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth oddi wrth un o'r un ar ddeg cwmni yma - ond mae rhai ond yn cael dŵr oddi wrth gwmni dŵr yn unig.
Mae cwmnïau dŵr a gwastraff dŵr yn casglu a storio dŵr, yn ei drin hyd at safonau uchel, yn ei beipio i gartrefi a busnesau ar draws y wlad, ac yna'n cludo'r dŵr a ddefnyddiwyd a'i drin fel y gall gael ei ddychwelyd i afonydd a'r môr.
Cwmnïau Dŵr yn unig
Mae cwmnïau dŵr yn unig ond yn darparu dŵr - maent yn casglu ac yn storio dŵr, yn ei drin hyd at safonau uchel, ac yn ei beipio i gartrefi a busnesau, ond cwmni dŵr a charthffosiaeth sydd yn cymryd y dŵr i ffwrdd ac yn ei drin fel y gall fynd yn ôl i afonydd neu'r môr.
Efallai bydd cwsmeriaid yn cael un bil ar gyfer y dŵr a charthffosiaeth, neu ddau fil, un ar gyfer y dŵr ac un ar gyfer carthffosiaeth.
Cwmnïau dŵr lleol
Hefyd mae cwmnïau sy'n darparu dŵr rheoledig a gwasanaethau carthffosiaeth i ardaloedd lleol mewn rhannau o'r wlad. Gallai hyn fod ar gyfer tai newydd neu ddatblygiad defnydd cymysg, neu ar gyfer busnesau sy'n defnyddio llawer o ddŵr. Mae'r ardaloedd hynny maent yn eu gwasanaethau i'w darganfod ar y gwefannau unigol isod.
Water UK
Nid yw Water UK yn darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ei hun, ond mae'n sefydliad aelodaeth sy'n cynrychioli'r holl gwmnïau gwasanaeth dŵr statudol enfawr a gwastraff dŵr yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Find your local water supplier
If you are a household customer, you can check who provides your water and sewerage services by entering your postcode below.
If you are a business, public sector or charity in England, you can now choose your supplier. To find out more, take a look at Open Water.
Cwmnïau dŵr a charthffosiaeth (cliciwch i ymweld â gwefan y cwmni)
Cwmnïau dŵr yn unig (cliciwch i ymweld â gwefan y cwmni)
Cwmnïau dŵr lleol (cliciwch i ymweld â gwefan y cwmni)
Dolenni i wybodaeth berfformiad am gwmnïau penodol
Cliciwch ar logo'r cwmni isod i ymweld â gwefan y cwmni er mwyn gweld gwybodaeth penodol am berfformiad. Nodwch os gwelwch yn dda efallai na fyddwch yn gallu clicio yn ôl oddi wrth wefannau cwmni.