Traethau glanach
Ansawdd y dŵr ar draethau a llynnoedd
Rhaid i ddŵr ar draethau a llynnoedd sy'n swyddogol ddynodedig ar gyfer nofio gwrdd â safonau ansawdd a diogelwch caeth.
Ffynhonnell: Defra a Llywodraeth Cymru 2023
Ystyrir bod 'rhagorol' yn ddŵr o'r dosbarthiad uchaf, glanaf. Mae dosbarthiad 'Da' yn golygu bod y dŵr yn gyffredinol o safon dda ac yn addas ar gyfer ymdrochi.
Ar ôl i gwmnïau dŵr drin carthion, maen nhw'n rhoi dŵr gwastraff a dŵr sydd wedi cael ei drin mewn llynnoedd, afonydd a'r môr. Po orau bydd triniaeth y dŵr, po orau bydd ansawdd y dŵr i nofwyr a'r amgylchedd yn gyffredinol.
Hyd yn oed pan fydd y dŵr yn cyrraedd y safonau, gall ansawdd y dŵr fod yn is, yn enwedig ar ôl glaw mawr, felly gwyliwch am arwyddion dros dro neu wybodaeth ar-lein a all cynghori yn erbyn nofio.
Daw bacteria yn y dŵr o nifer o ffynonellau, ond y tri phrif ffynhonnell yw: dŵr yn draenio o ffermydd a threfi yn ystod glaw trwm; carthion heb eu trin yn cymysgu gyda dŵr yn llenwi'r system ac yn gorlifo i afonydd a'r môr (i ddiogelu cartrefi rhag llifogydd); a chartrefi a busnesau yn draenio dŵr budr i'r pibellau anghywir.
Diddordeb mewn sut mae afonydd yn cael eu gwarchod?
Dysgwch fwy am sut mae eich cwmni dŵr yn gwarchod afonydd. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma