Fflworid
Weithiau ceir fflworid mewn dŵr tap
Lefelau Fflworid Nodweddiadol (2015)

Mae lefelau isel o fflworid ar gael yn naturiol yn y rhan fwyaf o ddŵr yfed yn Lloegr a Chymru. Mewn rhai mannau lle mae'r awdurdodau iechyd lleol wedi gofyn i gwmnïau dŵr ychwanegu mwy o fflworid drwy fesur iechyd cyhoeddus, mae lefelau o tua 1 miligram i bob litr (mg/l) yn llesol wrth atal pydredd dannedd (mae un mg/l yn gyfartal i un rhan i bob miliwn). Oherwydd hyn caiff ei ychwanegu i lawer o fathau o bast dannedd.
Yn Lloegr, gwneir penderfyniadau am fflwroreiddio gan awdurdodau iechyd. Ni chaniateir i gwmni dŵr ychwanegu fflworid i gyflenwadau o ddŵr yfed ond drwy gytundeb gyda Iechyd Cyhoeddus Lloegr. Rhaid ymgynghori â'r cyhoedd lleol a'r cwmni dŵr am ddymunoldeb a dichonolrwydd unrhyw gynllun arfaethedig i ychwanegu fflworid. Nid yw hyn yn digwydd ond mewn ychydig o ardaloedd yn Lloegr a Chymru - a ddynodir yn ardaloedd brith ar y map uchod.
Yng Nghymru, gwneir penderfyniadau am fflworeiddio gan Lywodraeth Cymru.
Ceir mwy o fanylion mewn taflen i gwsmeriaid ar www.DWI.gov.uk .
Cwestiynau pellach am fflwrorid yn eich dŵr?
Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma