Caledwch
Eich tirwedd lleol sy'n achosi i'ch dŵr fod yn feddal neu yn galed
Yn gyffredinol mae dŵr yn galetach yn y de ac yn mynd yn fwy meddal wrth symud tuag at y gogledd.
Mae dŵr glaw yn naturiol feddal ond unwaith bydd yn disgyn ar y ddaear a ffiltro drwy greigiau, bydd yn codi mwynau naturiol, fel calsiwm a magnesiwm. Bydd calewch y cyflenwad dŵr yn dibynnu ar y tirwedd lleol.
Nid am resymau iechyd, ond os ydych yn byw mewn ardal dŵr caled bydd meddalydd yn gwella effeithlonrwydd ac ymestyn oes offer domestig (e.e. peiriannau golchi). Bydd seboni'n haws a lleihau olion ar offer ymolchfa, ond rhaid cadw cyflenwad heb ei feddalu i'w yfed.
Ceir mwy o fanylion am galedwch dŵr mewn taflenni cyngor i ddefnyddwyr ar www.DWI.gov.uk.
Gall dŵr caled arwain at gen a chalch mewn systemau gwresogi, tegellau, peiriannau golchi llestri, sinciau a thoiledau. Dyma ychydig o gyngor am yr hyn gallwch ei wneud i dynnu cen a chalch:
Tegellau - Llenwch y tegell i'w hanner gyda dŵr, ychwanegwch ddwy llond llwy fwrdd o finegr gwyn a'i adael am bedair awr, wedyn cewch wagio'r tegell a thynnu'r calch rhydd. Rinsiwch a'i wneud eto mor aml ag sydd eisiau. Cewch hefyd brynu tynnwr cen a dilyn y cyfarwyddiadau ar y paced.
Peiriannau golchi llestri - Mae meddalydd dŵr wedi'i osod gan lawer o'r rhain ar gyfer dŵr i rinsio llestri. Dylech hefyd ail-lenwi eich peiriant gyda halen peiriant golchi llestri yn rheolaidd.
Bathau, sinciau a thoiledau - Achosir cen gan ddyddodion o halwynau calsiwm a geir mewn dŵr caled. I gael y canlyniad gorau dylid defnyddio defnydd glanhau hylif yn rheolaidd. Os bydd y calch yn aros yn eich toiled efallai byddwch am lanhau padell y toiled yn rheolaidd gyda glanweithydd asid sydd ar gael o siopau haearnwerthwyr ac archfarchnadoedd.
Ydych chi'n cael problemau gyda dŵr caled?
Cysylltch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma