Pibellau yn gollwng
Cael dŵr i'ch cartref
Mae dŵr yn cyrraedd eich cartref drwy filoedd o gilomedrau o bibellau tanddaearol. Am amryw resymau, mae pibellau yn gallu gollwng a chollir rhywfaint o ddŵr rhwng y gweithfeydd trin a'ch cartref.
- 8.7 gwaith
- o amgylch y cyhydredd
Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2023 - Mawrth 2024
- 1,202
- Pyllau nofio Olympaidd fesul dydd
Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, cyfartaledd tair blynedd Ebrill 2021 - Mawrth 2024
Gollyngiad
Caiff dŵr ei bibellu o dan wasgedd uchel i'ch cartrefi drwy filoedd o gilomedrau o bibellau tanddaearol. Am resymau gwahanol, gall pibellau ollwng a chollir pheth dŵr rhwng y gweithiau trin a'ch cartref.
Cau'r panelPibellau dŵr - pa rai sy'n perthyn i chi?
Mae'n ddefnyddiol i gael gwybod pa bibellau mae'r cwmnïau yn gyfrifol amdanynt a pha rai sy'n perthyn i chi.

Mae llawer o resymau pam fod pibellau dŵr yn gollwng. Mae rhai yn hen ac wedi treulio'n raddol drwy gyrydiad, ac mae'n bosib i rai eraill gael eu difrodi gan dywydd rhewllyd.
Mae symudiad yn y ddaear, fel symudiadau naturiol mewn seiliau adeiladau yn gallu rhoi straen ar bibellau.
Os gwelwch chi ddŵr yn gollwng ar y stryd, y peth gorau i'w wneud yw dweud wrth eich cwmni dŵr mor fuan ag sy'n bosib.
Yn eich cartref chi, mae rhai gollyngiadau fel tapiau'n diferu yn amlwg ond gall fod rhai eraill yn guddiedig, er enghraifft:
- Tu ôl i offer sy wedi cael ei blymio'n wael
- Mewn tanc dŵr sydd o'r golwg bob dydd
- Oherwydd seston toiled yn gorlifo
Os ydych chi'n credu bod gollyngiad posibl gyda chi a'ch bod ar fesurydd dŵr, edrychwch ar ddarlleniad eich mesurydd i weld a yw'n codi hyd yn oed pan fydd pob offer dŵr wedi'u diffodd (cofiwch aros am 30 munud i ganiatáu i sestonau lenwi).
Os dowch chi o hyd i ollyngiad yn eich pibellau, cysylltwch â phlymwr a ardystir gan WaterSafe.
Wedi canfod gollyngiad?
Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma