Diffyg cyflenwad
Cadw'r dŵr i lifo 24/7
Wrth droi'r tap ymlaen, mae disgwyl i'r dŵr lifo. Cewch ddibynnu ar hyn yn digwydd bron bob amser ond am wahanol resymau mae'n bosibl bydd toriad yn eich cyflenwad.
Canlyniadau a seilir ar ddigwyddiadau diffyg cyflenwad dros 3 awr neu fwy
Ffynhonnell: Dŵr UD; Lloegr a Chymru, Ebrill 2023- Mawrth 2024
Colli Cyflenwad
Mae cadw dŵr i lifeirio yn rhan hanfodol o swyddogaeth cwmni dŵr. Mae cwsmeriaid 5 gwaith yn llai tebygol o brofi ymyriadau cyflenwad heb eu trefnu nawr nag yn y 1990au cynnar.
Cau'r panelNumber of pipe (mains) repairs
Nifer yr atgyweiriadau i bibellau (prif gyflenwad)
Pibell wedi ei byrstio yw'r achos mwyaf cyffredin o golli cyflenwad dŵr.
Cau'r panelOs bydd eich cyflenwad dŵr yn methu, cysylltwch
â'ch cwmni dŵr oherwydd dylent allu dweud wrthych:
- y rheswm pam yr amharwyd ar eich cyflenwad neu ei dorri i ffwrdd, er enghraifft ar gyfer gwaith brys
- ble i ddod o hyd i gyflenwad arall
- pa bryd y dylech ddisgwyl i'r cyflenwad ddod yn ôl- er bod hyn yn anodd i'w ragweld mewn achosion methiannau annisgwyl
Mewn achosion toriadau sydd wedi'u trefnu i bara dros bedair awr, dylai cwmnïau dŵr roi 48 awr o rybudd fel arfer
Dan amgylchiadau sychder, caiff y cwmnïau dŵr wahardd pibelli dŵr neu ddefnyddio llawer iawn o ddŵr mewn dulliau eraiill er mwyn diogelu'r cyflenwad dŵr rhag methu.
Dim dŵr yn eich tap?
Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol os gwelwch yn dda. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma