Ansawdd
Rhaid i'ch dŵr fod yn ddiogel i'w yfed
Rhaid i ddŵr yfed gyrraedd safonau caeth i sicrhau ei fod yn ddiogel i'w yfed a bod yr ansawdd yn dderbyniol i ddefnyddwyr.
Canlyniadau profi dŵr yfed yn erbyn safonau ansawdd cenedlaethol
Ffynhonnell: Drinking Water Inspectorate; Lloegr a Chymru, Ionawr 2023 - Rhagfyr 2023
Ansawdd dŵr
Mae'r dŵr yr ydych yn ei yfed o ansawdd uchel iawn. Mae safonau caeth iawn wedi eu gosod ar ddŵr yfed pibellog, wedi eu gosod i warchod iechyd y cyhoedd ac i sicrhau bod ansawdd y dŵr yn dderbyniol i gwsmeriaid. Pob blwyddyn, mae bron i'r holl wiriadau a wnaethpwyd gan gwmnïau yn llwyddo'r nifer o brofion sydd eu hangen.
Cau'r panelMae safonau caeth iawn ar gyfer dŵr yfed – maen nhw yno i warchod iechyd y cyhoedd a sicrhau bod ansawdd y dŵr yn dderbyniol i ddefnyddwyr.
Mae'r safonau yn delio â micro-organebau, cemegau fel nitrad a phlaleiddiaid, metalau fel plwm a chopr, yn ogystal â'i olwg a'i flas. Ceir mwy o fanylion am safonau a rheoliadau cenedlaethol dŵr yfed mewn taflen sy'n rhoi cyngor i ddefnyddwyr ar www.DWI.gov.uk .
Bydd eich cwmni dŵr lleol yn gallu rhoi union fanylion cyfansoddiad cyflenwad eich dŵr chi.
Nid oes angen gosod ffiltr dŵr yn y cartref fel mesur diogelu iechyd. Dan y gyfraith mae'n rhaid i'ch cwmni dŵr gyflenwi dŵr sy'n ddiogel i'w yfed ac mae canlyniadau'r profion yn dangos fod dŵr yn pasio'r profion ar gyfer ansawdd dŵr ar bron bob achlysur.
Mae rhai cwsmeriaid yn dewid ffilter carbon wedi'i actifadu er mwyn gwaredu blas ac aroglau clorin - fodd bynnag bydd storio jwg o ddŵr yfed dan orchudd yn yr oergell yr un mor effeithiol.
Dylech lanhau eich tapiau dŵr yfed yn rheolaidd yn eich cartref gyda hylif glanhau, wedi'i ddilyn gan rinsio trylwyr. Mae bacteria a micro-organebau eraill yn digwydd yn naturiol ac fe'u ceir ar arwyneb y tap a tu mewn i'r pig.
Os ydych yn newid eich plymwaith neu'n cysylltu dyfeisiau â'r cyflenwad dŵr (e.e. peiriant golchi), dylech ddefnyddio dim ond y rheiny sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon).
Ansicr am ansawdd eich dŵr?
Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma