Carthffosydd yn gorlifo
Nifer y digwyddiadau lle'r oedd carthion yn gorlifo neu'n gorlifo i mewn i dŷ
Mae gorlifo o garthffosydd yn annymunol ac yn peri pryder ac mae cwmnïau dŵr yn gwario miliynau bob blwyddyn i atal hyn rhag digwydd. Mae camau'n bodoli'n ogystal y gallwch eu cymryd i leihau'r risg o orlifo o garthffosydd i'ch tŷ neu yn eich gardd.
Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2023 - Mawrth 2024
Llifogydd carthffos - tai
Mae hyd yn oed un ty wedi ei orlifo gan garthffos yn un yn ormod ac mae cwmnïau dŵr yn gweithio i leihau lleifeiriant carthffos. Mae cwmnïau wedi buddsoddi sawl miliwn i leihau y nifer o weithiau mae hyn yn digwydd ac mae cwsmeriaid 8 gwaith yn llai tebygol o ddioddef llifogydd carthffos nag yr oeddent yn 1990au cynnar.
Cau'r panelNifer y digwyddiadau lle roedd carthion wedi gorlifo ardaloedd o dir preifat neu erddi
Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2023 - Mawrth 2024
Llifogydd carthffos – gerddi a thir priefat
Pan mae carthffosiaeth yn gorlifo mewn i erddi ac ar i dir preifat, mae'n annymunol ac yn drallodus. Mae cwmnïau wedi buddsoddi sawl miliwn o bunnoedd i leihau y tebygolrwydd o hyn i ddigwydd. Ond mae hyd yn oed un ardd sydd yn cael ei llifeirio gan garthffosiaeth yn un yn ormod, ac mae cwmnïau dŵr yn gweithio i leihau'n bellach llifeirio carthffosiaeth.
Cau'r panelBeth na ddylech ei roi yn y toiled
Pan fydd carthffos neu ddraen yn blocio, gall achosi llifogydd yn nghartrefi pobl eraill. Gall rhwystrau hefyd arwain at lygredd yn yr amgylchedd, gan ddifrodi afonydd a thraethau. Weips gwlyb (gan gynnwys y rhai â sy'n dweud y gellir eu "fflysio", oni bai eu bod Fine to Flush), cewynnau i ffwrdd â nhw a nwyddau iechydaeth yw'r prif eitemau sy'n creu problemau
Beth i'w wneud gydag eitemau iechydol
Er gallai fod yn gyfleus i roi nwyddau iechydol i lawr y toiled, mae'n bosibl iddyn nhw gael eu dal yn y garthffos, crynhoi yno a chreu llifogydd o'r garthffos. Er mwyn osgoi hyn, ein cyngor yw rhoi'r nwyddau hyn mewn bag ac wedyn yn y bin. Wrth wneud hynny byddwch yn helpu lleihau costau dadblocio carthffosydd a draeniau cyhoeddus, a helpu cadw eich bil carthffosiaeth i lawr.
Osgoi rhwystrau yn y gegin
Mae olew o'r gegin, braster a saim yn gallu creu rhwystrau mawr. Ni ddylech roi'r rhain i lawr y draen. Yn lle hynny rydym yn argymell:
• arllwyswch eich olew, braster a saim i dun neu botel, gadael iddo galedu ac wedyn ei roi yn eich bin.
• gofynnwch i'ch cwmni carthffosiaeth am 'drap braster'’ – mae'r rhain ar gael am ddim.
• wedi'i gymysgu gyda hadau a chnau, gallwch roi braster yn eich gardd i fwydo adar.
defnyddiwch hidlenni yn eich sinc
Peidiwch â rhoi gweddillion bwyd i lawr y sinc, er gwaethaf beth ddywedir ar y pecyn. Yn lle hynny, rhowch nhw yn y bin.
Draeniau a charthffosydd - pa rai sy'n eiddo i chi?
Chi sy'n gyfrifol am y draeniau (mewn porffor) sy'n mynd â charthion o'ch eiddo at y ffin neu at y man lle mae'n ymuno (mewn melyn) â phibellau eiddo arall. Cwmnïau dŵr eraill piau'r pibellau mewn coch.

- pibellau sy'n mynd â charthion o'ch eiddo at y ffin (eich cyfrifoldeb)
- pibellau sy'n ymuno â phibellau eiddo arall (eich cyfrifoldeb)
- pibellau sy'n eiddo i gwmnïau dŵr (cyfrifoldeb y cwmni dŵr)
Oes cwestiwn gyda chi am garthffos yn gorlifo?
Cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma