Trin a chyflenwi
Nifer o weithfeydd trin dŵr a ddefnyddir i gynhyrchu dŵr yfed
Ffynhonnell: Water UK; Lloegr a Chymru, Ebrill 2023 - Mawrth 2024
Trin a chyflenwi eich dŵr
Mae chwe cham hanfodol i gael dŵr o'r ansawdd uchaf i'ch cartref.

Mae'r dŵr a ddaw o'r tapiau yn eich cartref, eich ysgol a'r gweithle yn cychwyn fel glaw. Mae'r dŵr glaw hwn naill ai'n llifo i afonydd a nentydd, neu'n cael ei gasglu mewn gronfeydd neu'n ffiltro drwy'r ddaear i ffurfio 'dŵr daear'
Wedyn, mae cwmnïau dŵr yn pwmpio'r dŵr hwn i weithfeydd trin lle mae'n mynd drwy amryw o brosesau cyn cael ei anfon atoch chi.
Gan fod cwmnïau dŵr yn cael dŵr o wahanol afonydd a ffynonellau dŵr daear, gall yr ansawdd amrywio, felly mae'r proses o'i drin yn cael ei deilwra i sicrhau eu bod yn rhoi dŵr i chi o'r ansawdd gorau posib.
Yn rhai o'r gweithfeydd trin mwyaf, mae cwmnïau yn storio dŵr mewn cronfeydd cyn iddo fynd drwy'r proses trin. Mae hyn yn digwydd am ddau reswm:
- Er mwyn i gwmnïau gael stôr neu gronfa o ddŵr wrth gefn, felly os na fydd wedi bwrw glaw am ychydig neu os nad allant bwmpio cymaint o ddŵr o'r afonydd neu'r ffynonellau dŵr daear, mae dŵr ar gael gan y cwmnïau i'w roi drwy'r proses trin.
- Storio'r dŵr mewn cronfeydd yw cychwyn y broses glanhau naturiol, gan fod y gronynnau trymaf yn setlo yn y gwaelod, sy'n golygu nad oes yn rhaid i gwmnïau eu tynnu yn ystod y proses trin
- Defnyddir cronfeydd gan gymunedau lleol i hwylio, pysgota, mynd ar deithiau natur, a gwylio adar.
Unwaith bydd cwmnïau wedi casglu'r dŵr, byddan nhw'n ei roi drwy sgrin i ddal unrhyw ganghennau neu ddail. Pe bai'r rhain yn cael eu gadael yn y dŵr byddent bron yn sicr o dagu'r proses trin.
Mewn rhai gweithfeydd trin, bydd cwmnïau yn ychwanegu hydoddiant i'r dŵr i wneud y gronynnau'n fwy ac yn haws eu tynnu. Yr enw ar hyn yw gronynnu.
Er mwyn sicrhau eu bod yn cynhyrchu'r dŵr puraf posib i gwsmeriaid, mae'r dŵr wedyn yn cael ei roi drwy ddau ffilter ychwanegol i dynnu gronynnau bychain:
- Ffilteri disgyrchiant cyflym sy'n golygu bod y dŵr yn pasio drwy danc llawn tywod bras. Mae'r tywod yn trapio gronynnau wrth i'r dŵr basio drwyddo.
- dŵr tywod araf lle mae'r dŵr yn cael ei ffiltro drwy haenau o dywod sy'n fwy mân o lawer.
mewn rhai gweithfeydd trin mae cwmnïau yn defnyddio dulliau ychwanegol hefyd, fel cyfnewid oson, ïon a charbon, i dynnu gronynnau microsgopig a gronynnau toddedig o'r dŵr. Mae'r dulliau hyn yn creu adweithiau cemegol yn y dŵr ac yn tynnu gronynnau mân.
Unwaith bydd y dŵr wedi cael ei drin, y peth olaf y bydd y cwmnïau'n ei wneud yw ychwanegu ychydig bach iawn (llai na un filigram i bob litr) o glorin iddo. Bydd hwn yn lladd unrhyw organebau neu facteria sydd ar ôl a chadw'r dŵr yn ddiogel hyd at y bydd yn cyrraedd eich tap.
Mae cwmnïau dŵr yn profi'r dŵr bob cam o'r proses trin. Maen nhw'n gwneud miloedd o brofion ar y dŵr maen nhw'n ei gynhyrchu bob blwyddyn, sy'n cael eu dadansoddi gan dimau o samplwyr a gwyddonwyr yn dadansoddi mewn labordai.
Yn dilyn y driniaeth derfynol, bydd y dŵr yn gadael y gweithfeydd trin a chael ei storio mewn cronfeydd wedi'u gorchuddio. Wedyn mae e'n cael ei bwmpio atoch chi drwy rwydwaith o bibellau a gorsafoedd pwmpio.
Eisiau gwybod mwy am sut mae dŵr yn cael ei gynhyrchu?
Mae gan gwmnïau dŵr ganolfannau i ymwelwyr. Cysylltwch â'ch cwmni dŵr i ddarganfod mwy.