Pwysau dŵr
Nifer o eiddo sydd â phwysau o dan y safon ofynnol
Dylech ddisgwyl i'r dŵr gyrraedd eich tŷ dan bwysau penodol fel ei fod yn llifo allan o'r tap yn dda wedi hynny. Mae safon ofynnol am bwysau mae'n rhaid i gwmnïau dŵr ei chyrraedd ond nid yw hyn bob amser yn bosibl.
Ffynhonnell: Water UK
Gwasgedd dŵr
Mae gwasgedd dŵr yn pennu llif y dŵr o'r tap. Mae'n anhebygol y bydd cwsmeriaid yn profi gwasgedd dŵr o dan y safon isafswm.
Cau'r panelMae'r safon ofynnol yn cyfateb i lenwi bwced 15 litr o fewn 100 eiliad. Yn dechnegol, mae hyn yn werth 10 metr y pen o bwysau wrth dap cau ar ffin sydd â llif o 9 litr y munud.
Gall pwysau isel leihau llif y dŵr fel ei fod yn diferynnu ac ni fydd rhai offer gwresogi modern a chawodydd yn gweithio o dan lefelau penodol o bwysau.
Mae pwysau isel yn digwydd am nifer o resymau, er enghraifft, pan fydd y galw am ddŵr yn uchel (fel yn y bore neu yn gynnar fin nos) gall y pwysau fod yn is nag y mae am weddill y dydd. Mae'n bosibl i broblemau godi hefyd yn ystod cyfnodau sych pan fydd pobl yn defnyddio pibelli dŵr neu daenellwyr i ddyfrio'r ardd.
Os bydd y pwysau dŵr yn rhy isel, dylai cwsmeriaid sicrhau nad oes problem gyda'r gwaith plymio yn yr adeilad, fel tap cau mewnol sydd wedi cau ar ei hanner (os oes un) neu bod dŵr yn gollwng.
Poeni am bwysau eich dŵr?
Cysylltwch â’ch cwmni dŵr os gwelwch yn dda neu blymer WaterSafe am fwy o gyngor. Heb wybod pwy yw eich cyflenwr? Dysgwch hynny yma